Cyfleusterau Cyfarfod a Hyfforddi

Yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin, rydym yn deall bod cynnal cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi a chynadleddau yn gallu achosi straen ar y gorau.Read More >> 
Mae cynllunio partïon pen-blwydd yn dasg enfawr, tydi?Mae’n rhaid i chi drefnu bagiau parti, cynllunio adloniant, ac ysgrifennu ac anfon gwahoddiadau...Read More >> 
Y rhaglen dysgu nofio yw’r ffordd orau i’ch plentyn ddysgu nofio.
Read More >>Gwersyll Gwyliau Bizzy Bees

Mae ein gwersyll gwyliau yn lle gwych i’ch plant yn ystod gwyliau’r ysgol. Byddan nhw’n cael eu cadw ar flaenau’u traed drwy’r dydd yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl. Bydd staff bywiog ac arbenigol yn cadw llygad ar y plant drwy’r dydd.
Read More >>
Achubwyr Bywyd mewn Pwll Nofio yn cael Marciau Llawn
Mae adran Cyfleusterau Hamdden Sir Gaerfyrddin yn falch iawn o gael cadarnhau bod Canolfan Hamdden Llanelli wedi cael 100% mewn arolygiad diweddar.
Mae Gareth Pryor, yr asesydd hyfforddiant achub bywyd, wedi bod yn allweddol o ran y canlyniad gwych hwn, a hynny gyda chymorth Celia Melvin, y Rheolwr ar Ddyletswydd, a Steve Owens, Cydgysylltydd y Ganolfan.
Mae'r ganolfan wedi ennill statws cymeradwy am ddeuddeg mis arall. Cafodd y gwiriad allanol ei gynnal gan un o Arolygwyr y Sefydliad Achubwyr Bywyd Cymwys (IQL), a ddywedodd, “Mae hwn yn ganlyniad gwych yn sgil ffrwyth llafur hyfforddwr ymroddgar a threfnus”.
Dim ond canolfannau sy'n cyrraedd y safonau uchaf oll o ran hyfforddiant achubwyr bywyd a gaiff statws cymeradwy.
Sefydliad cenedlaethol sy'n cael ei gynnal gan y Gymdeithas Achub Bywyd Frenhinol yw'r Sefydliad Achubwyr Bywyd Cymwys.
Mae hyfforddiant a chyrsiau achub bywyd Cymhwyster Cenedlaethol Achubwyr Bywyd Pwll Nofio (N.P.L.Q.) yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y ganolfan. Cysylltwch â Steve Owens i gael rhagor o wybodaeth: sowens@sirgar.gov.uk