Text Size: A A A  |  leisure@carmarthenshire.gov.uk
Teulu 
Family

Yn Aqua Sir Gâr, rydym yn frwd dros ddarparu amgylchedd lle gall teuluoedd fwynhau nofio. Mae rhieni yn chwarae rôl weithredol yn y pwll ac mae mynd â phlentyn i nofio yn ifanc yn cynnig cyfle gwych i ymlacio ac i’r rhiant a’r plentyn fondio.

Mae diogelwch dŵr yn bryder cyffredin i lawer o rieni a gall ofn dŵr am ba reswm bynnag fod yn gyfyngol iawn. Cyflwyno plentyn i ddŵr yn ifanc yw’r cam cyntaf wrth osgoi ofn o’r fath a sicrhau bod nofio a chwarae yn y dŵr yn brofiad pleserus.

Gall helpu i achub eu bywyd! Yn anffodus, mae boddi yn dal i fod yn achos rhy gyffredin o lawer marwolaethau damweiniol ymhlith plant.

Mae’n agor byd cwbl newydd. Dychmygwch, bydd eich plentyn yn gallu sblasio gyda theulu a ffrindiau, breuddwydio am fod yn bencampwr nesaf y gemau Olympaidd neu gael amser gwych ar wyliau yn mynd i’r pwll neu’r môr.

A pheidiwch â phoeni bod dysgu nofio yn gymhleth. Mae’n gam naturiol yn natblygiad plentyn.

I gael gwybod pryd y cynhelir eich gweithgaredd dewisol, a fyddech cystal ag edrych ar amserlen y pwll nofio yn eich canolfan hamdden leol.  Gellir gweld yr amserlenni drwy fynd i'r dolenni ar ochr dde'r dudalen hon.